EVC3 DPD Group

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith | Climate Change, Environment and Infrastructure Committee

Gwefru cerbydau trydan | Electric vehicle charging

Ymateb gan DPD | Evidence from DPD

 

1. Beth yw eich barn am y Cynllun Gweithredu?

DPD yw prif gludydd parseli B2C domestig y Deyrnas Unedig, gyda thîm o 22,000 yn dosbarthu dros 350 miliwn o barseli bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn rhan allweddol o'r diwydiant trafnidiaeth, sy'n cyfrif ar hyn o bryd am ryw chwarter o allyriadau CO2 blynyddol y Deyrnas Unedig. Rydym yn cymryd ein rôl yn y broses o ddatgarboneiddio'r Deyrnas Unedig o ddifri, ac yn cefnogi'n llawn Gynllun Gweithredu'r Pwyllgor ar gyfer cynyddu a gwella seilwaith gwefru Cerbydau Trydan (EV) y wlad.

Fel cwmni, mae DPD yn cymryd camau pendant i ddatgarboneiddio ei weithrediadau, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddinasoedd lle mae argaeledd seilwaith gwefru cerbydau trydan yn caniatáu symud yn llwyr oddi wrth faniau sy'n rhedeg ar betrol a diesel. Rhoddwyd strategaeth 'Gweledigaeth 30' ar waith sy'n ymrwymo i sicrhau bod dosbarthu mewn 30 o ddinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig yn gyfangwbl sero net erbyn diwedd 2023.

Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae gan DPD 205 o faniau gweithredol ar hyn o bryd, 71 ohonynt yn rhai trydan. Bydd 24 o faniau trydan eraill mewn cylchrediad y flwyddyn nesaf, i sicrhau gwasanaeth trydan llwyr yn y ddinas cyn gynted â phosibl. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd ein strategaeth cerbydau trydan trosfwaol yn y Deyrnas Unedig yn dosbarthu 100m o barseli â faniau trydan yn 2023, o gymharu ag 1.3m yn unig yn 2019, ac rydym am i'n gyrwyr ledled Cymru chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hyn.

Prif bryder ein cwmni, a amlygir yn yr adrannau perthnasol isod, yw'r oedi wrth ehangu seilwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Yng Nghaerdydd, dim ond 25 o safleoedd gwefru sy'n addas i faniau sydd ar gael i'r trigolion ar hyn o bryd, ac mae hynny'n cynnwys llawer o yrwyr DPD sy'n prydlesu eu faniau gyda'n cefnogaeth ni. Rhaid i wella'r ddarpariaeth fod yn brif flaenoriaeth i'r llywodraeth ganolog a lleol wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau bod modd i'r sector dosbarthu ddatgarboneiddio'n gyflym.

Mae datgarboneiddio trafnidiaeth mewn trefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig o'r pwys mwyaf i DPD, yn enwedig yn y rhai lle rydym wedi penderfynu mynd y tu hwnt i'r hyn a fynnir gan awdurdodau er mwyn cyflwyno gwasanaeth heb allyriadau. Ein nod yw sicrhau bod modd i ddinasyddion ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig fyw mewn dinasoedd a chymunedau gwledig sy'n wyrddach, lle mae'r aer yn lanach, a lle mae modd dosbarthu parseli'n gyflym mewn modd sy'n llesol i'r amgylchedd.

Gobeithiwn fod y cyflwyniad hwn yn dangos bod gennym lawer o arbenigedd a phrofiad i'w rhannu, a byddem yn hoffi cydweithio'n fwy â'r Senedd a Llywodraeth Cymru ar hyn wrth symud ymlaen. Byddai'n bleser cael cwrdd â chi i glywed rhagor o fanylion am eich cynlluniau datgarboneiddio trafnidiaeth, a thrafod sut gallwn ni weithio'n effeithiol ar y cyd i gyflymu ymdrechion o ran gwefru cerbydau trydan a mwy.

2. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 1: Seilwaith gwefru?

Fel y soniwyd uchod, mae'r oedi wrth ehangu seilwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn bryder dilys i'n cwmni. Rydym wedi ymgynghori â'r llywodraeth ar y mater hwn, ac yn cefnogi'r cynnydd parhaus mewn cyllid i ehangu'r rhwydwaith yn ystod y blynyddoedd nesaf, gan gydnabod ar yr un pryd bod angen llawer mwy. Rydym ni'n parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth Ganolog am fwy o gyllid i Awdurdodau Lleol, er mwyn sicrhau seilwaith gwefru cynhwysfawr.

Mae'r rhan fwyaf o'n gyrwyr yn dewis bod yn hunangyflogedig. Er mwyn eu galluogi i ddosbarthu eitemau mewn modd sero net, mae DPD yn rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol iddyn nhw yrru cerbydau trydan sydd ar brydles oddi wrthym ni. Er ein bod yn darparu grantiau ar gyfer y rhai sy'n gallu gosod pwyntiau gwefru gartref, nid yw hynny'n bosibl i lawer o yrwyr oherwydd diffyg lle, ac o ganlyniad maent yn dibynnu ar y seilwaith cyhoeddus yn eu hardal, fel y trigolion eraill. O'r herwydd, mae angen mynediad arnyn nhw at seilwaith gwefru mewn ardaloedd preswyl, a seilwaith gwefru cyhoeddus amhreswyl y gallent ei ddefnyddio ar eu teithiau dosbarthu ac oddi cartref.

Dylid ceisio sicrhau nad oes rhaid i unrhyw yrwyr proffesiynol sydd â'u bryd ar yrru cerbyd trydan ddewis peidio â gwneud hynny oherwydd sut neu ble maen nhw'n byw. Mae angen sicrhau, felly, bod adeiladu mwy o hybiau trydan ar draws rhwydwaith ffyrdd Cymru yn flaenoriaeth allweddol, gan y byddai hynny'n caniatáu defnyddio cerbydau hwy a thrymach ar deithiau hwy, gan fod cwmpas y fersiynau trydan o'r mathau hyn o gerbydau yn gyfyngedig. Er bod hwn yn fater y mae angen ei ddatrys ar gyfer gyrwyr preifat a gyrwyr cerbydluoedd, mae'r olaf yn defnyddio'u cerbydau mewn modd sy'n ddramatig o wahanol. Yn ôl amcangyfrifon yn 2020, mae gyrwyr cerbydlu yn gwneud cymaint â chwe gwaith y nifer o filltiroedd bob blwyddyn, gan deithio rhyw 70 milltir y dydd yn olynol ar draws yr wythnos waith. Mae hynny'n galw am wefru dros nos o bwyntiau gwefru pwerus mewn amgylchedd diogel.

Rydym ni'n ymwybodol iawn bod costau sylweddol ynghlwm wrth ehangu'r seilwaith gwefru. Yn ein canolfannau, mae cost gosod cyfarpar gwefru addas yn £750,000 o leiaf, o gymharu â gosod tanc diesel am ryw £50,000. Serch hynny, rydym yn gweithio'n galed i uwchraddio ein seilwaith yn gyflym, ond rydym yn boenus o ymwybodol na fydd hynny o gymorth i yrwyr hunangyflogedig nad ydynt yn byw'n agos at ein canolfannau.

3. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 2: Optimeiddio’r ddarpariaeth ynni?

Mae DPD yn cydnabod pwysigrwydd gwella'r ddarpariaeth ynni fel cam cyntaf a fydd yn caniatáu ehangu'r seilwaith gwefru cerbydau trydan yn gyflym, ac mae'n cefnogi'r syniad y dylai llywodraeth ganolog a lleol gydweithio'n agos â Gweithredwyr y Rhwydwaith Dosbarthu a darparwyr pwyntiau gwefru ar hyn. Fodd bynnag, ymddengys yr amserlen arfaethedig, "o fewn rhyw 2 flynedd yn fras", ar gyfer sefydlu grŵp Cysylltiadau a fydd yn dod â'r cymeriadau hyn ynghyd yn hir o ystyried graddfa'r her a'r targedau datgarboneiddio trafnidiaeth a bennwyd gan y Llywodraeth a chan gymeriadau mwy uchelgeisiol yn y sector dosbarthu a thrafnidiaeth.

4. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 3: Gwella’r ddarpariaeth gwefru chwim?

Mae DPD yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno darpariaeth gwefru chwim bob 20 milltir ar hyd rhwydwaith cefnffyrdd strategol Cymru erbyn 2025. Mae hyn yn arbennig o bwysig i hwyluso'r pontio i gerbydau trydan ar draws ardaloedd gwledig Cymru, nad yw'n bosibl ar hyn o bryd oherwydd y diffyg seilwaith effeithlon addas ar gyfer teithiau hwy sy'n gysylltiedig â dosbarthu mewn ardaloedd gwledig.

Yng nghyswllt Caerdydd, sef yr unig leoliad y bernir ar hyn o bryd ei fod yn addas ar gyfer symud yn gyffredinol i gerbydau trydan, mae gan DPD 71 o gerbydau sy'n rhedeg ar drydan. Er bod rhai gyrwyr wedi cael eu cynorthwyo i osod gwefrwyr yn eu cartrefi, nid yw hynny'n opsiwn i lawer ohonynt, ac o ganlyniad maent yn dibynnu ar seilwaith cyfredol y ddinas, sy'n cynnwys 25 o wefrwyr >50kw yn unig.

Byddem ni'n croesawu'n fawr gyfle i weithio gyda Trafnidiaeth i Gymru ar oruchwylio'r gwaith i ehangu gwefru chwim, a rhannu data manylach ynghylch y galw disgwyliedig wrth symud ymlaen.

5. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 4: Safonau ansawdd Cymru?

Mae DPD yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar ddatblygiad safonau cenedlaethol arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran ansawdd y ddarpariaeth wefru, ac mae'n bendant o'r farn y dylai cyfleusterau ymyl y ffordd fod mor hygyrch â phosibl i bob gyrrwr, gyda chyn lleied o amser gyrru â phosibl rhwng cyfleusterau.

Pwynt penodol nad yw'n cael digon o sylw, yn ein barn ni, yw'r un ynghylch platfformau talu mewn mannau gwefru a hybiau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae system ddarniog ac anghyson wrth dalu am wefru cerbydau trydan yn ymffurfio yn y Deyrnas Unedig, ac mae perygl y bydd hynny'n cymhlethu'r defnydd o gerbydau trydan at ddibenion masnachol oherwydd na fydd gyrwyr yn gallu talu'n ddidrafferth am eu gwefru ym mhob un o'r pwyntiau gwefru trydan.

Mae diffyg gwybodaeth ynghylch a fydd eich cerbyd yn gydnaws â'r pwynt gwefru agosaf yn anochel yn creu pryder ynghylch cwmpas, a gall estyn teithiau ac oriau gwaith gyrwyr sy'n gorfod mynd heibio i sawl hwb gwefru er mwyn cael hyd i un sy'n cyfateb i'w hanghenion. O ystyried hyn, mae DPD yn cytuno â rhannau helaeth o'r sector dosbarthu a logisteg bod angen system filio ganolog ar gyfer gweithrediadau masnachol, fel bod taliadau busnes yn gallu bod mor ddidrafferth â phosibl.

6. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 5: Hwyluso rheoleiddioll?

Mae DPD yn cefnogi'n llawn gynllun Llywodraeth Cymru i adolygu rheoliadau adeiladu i gefnogi darparu gwefru yn y cartref a'r gweithle ledled Cymru, a hynny yn achos prosiectau adnewyddu ac adeiladu o'r newydd.

7. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 6: Partneriaeth a chydweithio?

Mae cydweithio rhwng y llywodraeth a'r sector preifat yn hanfodol bwysig i gyflymu'r gwelliant yn seilwaith gwefru cerbydau trydan y Deyrnas Unedig. Mae DPD yn cefnogi'n llawn yr ymgyrch i sefydlu gweithgor Gweithredwyr Pwyntiau Gwefru gyda'r nod hwn mewn golwg, a byddai wrth ei fodd yn cymryd rhan pan fo hynny'n addas er mwyn sicrhau bod anghenion y sector dosbarthu yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau, a bod cwmnïau fel ninnau yn cyfrannu at wella'r seilwaith cerbydau trydan yng Nghymru.

8. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 7: Cynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus?

Mae DPD yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru yng nghyswllt ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r seilwaith gwefru cerbydau trydan ledled Cymru, gan y bydd hynny'n helpu'r cyhoedd i ddeall gwefru cerbydau trydan. Mae angen gweld y symudiad at gerbydau trydan fel prosiect cenedlaethol sy'n cynnwys gyrwyr preifat a'r rhai sy'n defnyddio cerbydau i weithio yn y sector trafnidiaeth a dosbarthu.

Yn achos DPD yn benodol, mae'n bwysig cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o sefyllfa mwyafrif o'n gyrwyr yng nghyswllt defnyddio'r seilwaith gwefru cerbydau trydan, yn arbennig pwyntiau gwefru ar y stryd mewn dinasoedd fel Caerdydd. Fel y soniwyd uchod, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn hunangyflogedig trwy ddewis, ac yn cael cefnogaeth DPD i ddarparu gwasanaeth dosbarthu sero net trwy brydlesu cerbydau trydan oddi wrthyn ni. Er ein bod yn darparu grantiau ar gyfer y rhai sy'n gallu gosod pwyntiau gwefru gartref, nid yw hynny'n opsiwn i lawer o yrwyr oherwydd diffyg lle, felly maent yn dibynnu ar y seilwaith cyhoeddus yn eu hardal, fel unrhyw breswylydd arall. O ganlyniad, mae angen iddyn nhw gael mynediad at bwyntiau gwefru mewn amrywiol leoedd sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan yrwyr preifat cerbydau trydan, ac yn y gorffennol mae hynny wedi arwain at ymateb negyddol, oherwydd nad oes cyflenwad digonol o bwyntiau gwefru i ateb y galw yn y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig.

9. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 8: Annog cyfleoedd i fuddsoddi ac arloesi?

Mae DPD yn cytuno bod angen mwy o ymchwil a datblygu i gyflymu dichonoldeb dosbarthiadau sydd yn defnyddio trydan 100% o amgylch y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.

Maes blaenoriaeth yw gwella technoleg batrïoedd i fwyafu cwmpas a hyd oes cerbydau trydan unigol. Mae amser gwefru nodweddiadol fan drydan dros 6 awr, sy'n golygu y bydd sawl cerbyd yn segur ar unrhyw adeg benodol, fel bod angen cerbydluoedd mwy o faint a phwyntiau gwefru ychwanegol, a pho gyflymaf rydych chi'n gwefru cerbyd trydan, a pho amlaf, cyflymaf bydd y batrïoedd yn treulio. Mae hynny'n golygu, os bydd amlder a hyd teithiau'n cynyddu, y bydd hyd oes pob cerbyd yn gostwng, gan greu mwy o gostau. Bydd buddsoddiad gan y Llywodraeth mewn arloesedd ynghylch oes cerbydau a batrïoedd yn cael effaith sylweddol, estynedig.

10. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed yn erbyn Cam Gweithredu 9: Creu synergedd?

Mae DPD yn cefnogi'n llawn ystyried seilwaith gwefru ym mhob cynllun datblygu rhanbarthol a lleol perthnasol, yn rhai newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg. Fel y soniwyd uchod, mae angen llawer o waith o hyd i hwyluso defnydd o gerbydau trydan mewn ardaloedd gwledig yn benodol, felly byddai unrhyw fentrau sy'n gallu helpu i ddarparu pŵer a phwyntiau gwefru i gymunedau y tu allan i ddinasoedd, gan gynnwys busnesau, yn cael eu croesawu'n fawr. Mae hyn yn cynnwys nodi synergeddau traws-sector trwy gyfleoedd i greu lleoedd o amgylch gwasanaethau lleol a manwerthu ar y stryd fawr.

11. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud o fewn cwmpas yr ymchwiliad hwn?

Mae DPD o'r farn bod ymgyngoriadau fel hwn yn rhan o ymgysylltu parhaus, uchelgeisiol, sydd â ffocws ar ganlyniadau rhwng y llywodraeth a'r sector preifat, ac mae'n croesawu elfennau yn y Cynllun Gweithredu sy'n ceisio cyflawni hyn. Fel cwmni, mae gennym ni lawer o brofiad ac arbenigedd i'w rhannu yn y maes hwn, a byddem ni'n hoffi gweithio'n fwy ar hyn ochr yn ochr â chi wrth symud ymlaen. Byddai'n bleser cwrdd â chi i glywed rhagor o fanylion am gynlluniau datgarboneiddio trafnidiaeth ehangach y Pwyllgor, a thrafod sut gallwn ni gydweithio'n effeithiol i gyflymu ein hymdrechion